Dechreuodd y comisiwn annibyniaeth eu gwaith yn syth ar ôl etholiad cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr 2019 ar gais Arweinydd Plaid Cymru Adam Price gyda’r dasg o gynhyrchu argymhellion ar ffyrdd y dylai Llywodraeth Plaid Cymru baratoi ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Mae Cymru, a’i Senedd a’i hawl i ddeddfu, eisoes ar daith tuag at annibyniaeth. Y camau nesaf yw pwnc yr adroddiad hwn sydd yn:
-
Mynnu y dylai Cymru annibynol ymgeisio i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gan ymaleodi yn y lle cyntaf o bosibl a’r Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd.
-
Yn argymell y dylai Cymru archwilio perthynas gydffederal a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
-
Dadlau o blaid newid dull gweithredu Llywodraeth Cymru a’r gwasanaeth sifil.
-
Yn dangos sut i fynd ati i lunio Cyfansoddiad i Gymru ac yn disgrifio fframwaith i’r Bil Hunan-Benderfynu er mwyn bwrw ymlaen a’r broses annibyniaeth.
-
Yn dweud dylai Comisiwn Cenedlaethol statudiol gynnig dealltwriaeth glir i bobl Cymru ynghyrch yr opsiynau ar gyfer eu dyfodol cyfansoddiadol – gan ddefnyddio Rheithgorau Dinasyddion a reffrendwm cychwynnol i roi prawf ar ystod o opsiynau cyfansoddiadol.